Ein cyf/Our ref
Heledd Fychan AS
Cadeirydd y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith
SeneddTai@senedd.cymru
14 Gorffennaf 2023
Annwyl Gadeirydd
Diolch am eich gohebiaeth gan y Pwyllgor dyddiedig 14 Mehefin ynglŷn â gwasanaethau bysiau yng Nghymru
Gweler isod yr ymatebion i'r cwestiynau a ofynnwyd gan y Pwyllgor yn eich gohebiaeth.
Trefniadau cyllid hyd at ddiwedd y flwyddyn ariannol
· A allwch chi ddarparu dadansoddiad manwl o'r cyllid a fydd yn ffurfio'r £46 miliwn y gwnaethoch ei gyhoeddi?
Fel mater o gwrs mae Llywodraeth Cymru yn darparu cymorth uniongyrchol ar gyfer y diwydiant bysiau drwy ein Grant Cynnal Gwasanaethau Bysiau gwerth £25 miliwn, y Cynllun Prisiau Siwrneiau Consesiynol Gorfodol gwerth £60 miliwn a Chynllun FyNgherdynTeithio gwerth £2 miliwn. Mae £28 miliwn ychwanegol wedi cael ei ychwanegol ar ben y cyllidebau arferol yn benodol i gefnogi'r diwydiant bysiau wrth iddynt adfer o effeithiau'r pandemig. Oherwydd diffyg defnyddwyr, nid ydym yn disgwyl y bydd angen arnom yr holl £60 miliwn ar gyfer y Cynllun prisiau Siwrneiau Consesiynol Gorfodol, felly rydym wedi ailddyrannu’r tanwariant a ragwelir o £18 miliwn i'r Gronfa Bontio ar gyfer Bysiau. Bydd £4 miliwn o'r £46 miliwn yn cael ei ddefnyddio i gefnogi ac i ddiogelu gwasanaethau TrawsCymru.
· Sut bydd y £46 miliwn ychwanegol ar gyfer y Cynllun Brys ar gyfer y Sector Bysiau a'r trefniadau ar gyfer y cynllun olynol yn cael ei ddosbarthu ymhlith gwahanol wasanaethau?
Dros y misoedd diwethaf, rydym wedi bod yn gweithio gyda'r Timau Cynllunio Rhwydweithiau Rhanbarthol, a gweithredwyr, i gynllunio a chostio rhwydwaith o wasanaethau bysiau y gellir eu darparu pan fydd y cyllid brys yn dod i ben.
Mae dyraniadau cyllid dangosol wedi cael eu gwneud ar gyfer pob rhanbarth, yn seiliedig ar y cyllid sydd ei angen ym mhob ardal i gynnal y rhwydwaith craidd o wasanaethau.
· Byddem yn ddiolchgar am ragor o wybodaeth am yr amserlenni ar gyfer y gwaith hwn a'r trafodaethau sy'n cael eu cynnal â chynrychiolwyr undebau llafur am yr effaith bosibl ar swyddi
Bydd y Cynllun Brys presennol ar gyfer y Sector Bysiau yn dod i ben ar 24 Gorffennaf, a bydd y cynllun olynol, sef y Gronfa Bontio ar gyfer Bysiau, yn dechrau ar y 25ain. Mae'r amserlenni ar gyfer hyn yn heriol, ac rydym yn bwriadu bod wedi penderfynu ar y manylion terfynol ac wedi gwneud cytundeb ffurfiol gyda gweithredwyr ac awdurdodau lleol yn ystod yr wythnos nesaf.
Rwyf wedi cwrdd â chynrychiolwyr o'r undebau llafur ac wedi rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf iddynt am y datblygiadau mewn perthynas â chyllid bysiau. Rwyf hefyd yn cwrdd â chynrychiolwyr o'r undebau llafur ar gyfer trafodaethau helaeth am faterion sy'n effeithio ar eu haelodau. Mae Trafnidiaeth Cymru hefyd yn cwrdd ag undebau llafur trafnidiaeth yn rheolaidd.
· Pa feini prawf fydd yn cael eu defnyddio i bennu dyraniad y cyllid hwn?
· A allech ymhelaethu ar y broses ar gyfer penderfynu pa fysiau a fydd yn parhau i weithredu yng ngoleuni'r diffyg cyllid sydd wedi cael ei gydnabod?
Mae gwybodaeth leol yn allweddol wrth benderfynu pa rwydwaith sydd orau ar gyfer unrhyw ran benodol o Gymru. Felly rydym wedi gofyn i awdurdodau lleol flaenoriaethu'r gwasanaethau sydd eu angen a'r rhai maent am eu diogelu.
Fodd bynnag, mae'n bwysig nad yw awdurdodau lleol yn gweithio ar eu cynlluniau yn annibynnol, am nad yw pobl yn byw eu bywydau o fewn ardal un awdurdod lleol – maent yn fwy tebygol o lawer o deithio o amgylch y rhanbarth. I'r perwyl hwn, rydym wedi sefydlu Timau Cynllunio Rhwydweithiau Rhanbarthol ar gyfer y Gogledd, y Canolbarth, y De-orllewin a'r De-ddwyrain. Mae'r timau hyn yn cynnwys cynrychiolwyr o Drafnidiaeth Cymru, awdurdodau lleol a gweithredwyr bysiau i benderfynu pa lwybrau a gwasanaethau bysiau y dylid eu cadw gan ddefnyddio'r cyllid a roddir gan Gronfa Bontio ar gyfer Bysiau Llywodraeth Cymru.
Mae’r timau rhanbarthol wedi canolbwyntio ar ddiogelu gwasanaethau allweddol sy'n gwasanaethu ysbytai, gweithleoedd a chanolfannau addysg. Mae'r tîm hefyd yn canolbwyntio ar leihau dyblygu gwasanaethau. Ein blaenoriaeth fu cydbwysedd rhwng cwmpas daearyddol ac amlder gwasanaethau.
Mae'r timau rhanbarthol hyn bellach yn cydweithio'n dda, ac yn gweithio'n gyflym i orffen eu cynlluniau erbyn diwedd mis Gorffennaf, ac er nad yw'r fersiynau terfynol o'r cynlluniau ar gyfer rhwydweithiau wedi cael eu llunio, mae'r arwyddion cyntaf yn awgrymu ei bod yn debygol y bydd newidiadau i rai rhwydweithiau bysiau lleol ledled Cymru.
O fewn y cyd-destun hwn, mae cwmnïau bysiau’n gyfrifol am benderfynu pa newidiadau mae angen iddynt eu gwneud i wasanaethau bysiau masnachol i sicrhau eu bod yn parhau i fod yn fasnachol hyfyw, ac mae awdurdodau lleol yn parhau i fod yn gyfrifol am benderfynu pa lwybrau a weithredir yn lleol ar sail tendr y dylid eu cadw, eu dileu neu eu diwygio, yn seiliedig ar asesiad diweddar o batrymau teithio ar ôl COVID a chostau gwasanaethau / costau gweithredu.
Rydym wedi annog awdurdodau lleol i weithio gyda chymunedau lleol, yn enwedig os yw'n debygol y bydd y newidiadau i wasanaethau'n cael effaith sylweddol ar y cymunedau hyn.
· A allech roi rhagor o fanylion am eich bwriadau ynghylch trefniadau ar gyfer cynllun olynol i'r Cynllun Brys ar gyfer y Sector Bysiau ym mlwyddyn ariannol 2024/25 i roi sicrwydd na fydd y sefyllfa bresennol yn cael ei hailadrodd yn y flwyddyn ariannol nesaf?
· Beth yw'r cynlluniau cychwynnol ar gyfer ariannu gwasanaethau bws yn ystod blwyddyn ariannol 2024/25?
Defnyddir y Gronfa Bontio ar gyfer Bysiau yn fecanwaith ychwanegol i gefnogi gwaith y timau rhanbarthol ac i helpu'r diwydiant i symud o gyllid brys i wasanaethau a weithredir yn lleol ar sail tendr o fis Ebrill 2024. Yn y cyfamser, mae fy swyddogion hefyd yn adolygu'r mecanweithiau presennol ar gyfer cyllid grant fel y Grant Cynnal Gwasanaethau Bysiau a ffrydiau cyllid eraill i ddarparu pecyn cymorth mwy sefydlog ac effeithiol ar gyfer y dyfodol.
Bydd hyn yn gweithredu fel carreg sarn ar gyfer ein cynlluniau i fasnacheiddio'r rhwydwaith drwy ein Bil Diwygio Bysiau.
· Mae cynrychiolwyr llywodraeth leol wedi awgrymu y gallai cael pris penodol yn hytrach na rhai tocynnau rhatach fod yn fanteisiol. A yw hyn yn rhywbeth yr ydych yn ei ystyried? A allwch roi rhagor o wybodaeth am unrhyw ddadansoddiad sydd wedi'i wneud ynghylch yr opsiwn hwn?
Rydym wedi cynnal asesiad cynhwysfawr dros y 12 mis diwethaf mewn perthynas ag amrediad o opsiynau eraill i wneud teithio ar fysiau'n fwy fforddiadwy a hygyrch ar gyfer trigolion Cymru ac ymwelwyr â Chymru nad ydynt yn gymwys i deithio ar fysiau am ddim o dan y Cynllun Prisiau Siwrneiau Consesiynol Gorfodol. Roedd yr opsiynau a gafodd eu hystyried yn cynnwys:
- Cyflwyno pris siwrnai safonol wedi'i gapio yn debyg i'r cap £2 a gafodd ei dreialu yn Lloegr;
- gostyngiadau mwy hael ar gyfer pobl ifanc fel rhan o'r cynllun "Fy Ngherdyn Teithio" presennol ar gyfer pobl 16–21 oed, sydd ar hyn o bryd yn rhoi'r hawl i ddeiliaid cerdyn i gael gostyngiad o draean pris siwrnai ar gyfer oedolyn;
- gostyngiadau ar gyfer tocynnau bysiau a threnau; a
- tocynnau rhatach newydd y gellir eu defnyddio ar draws nifer o weithredwyr a pharthau.
Ein blaenoriaeth bresennol ar gyfer cyllid yw sicrhau'r nifer uchaf o wasanaethau ag y bo modd, gan sicrhau nad yw llawer o wasanaethau'n cael eu canslo a sicrhau bod rhwydwaith bysiau ar waith y gall pobl ddibynnu arno.
· Sut mae effaith ehangach darparu gwasanaethau bysiau’n cael ei hadlewyrchu ym mhroses pennu cyllideb Llywodraeth Cymru? Pa waith y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud i ystyried effaith gadarnhaol buddsoddi mewn trafnidiaeth gyhoeddus ar feysydd polisi eraill, megis iechyd, ac a yw Llywodraeth Cymru wedi ystyried rhinweddau ailgyfeirio cyllid o bortffolios eraill yn y cyd-destun hwnnw?
Rwy'n falch iawn o hanes y llywodraeth hon wrth gefnogi gwasanaethau bysiau yn ystod y pandemig ac yn ystod y cyfnod adfer wedyn. Rydym wedi gwneud dros £150 miliwn o gyllid ychwanegol ar gael i'r diwydiant yn ystod y cyfnod hwn. Mae hyn wedi sicrhau bod gwasanaethau bysiau hanfodol wedi parhau i weithredu.
Wrth edrych ar weddill y flwyddyn hon, byddwn yn gallu diogelu'r rhan fwyaf o'r gwasanaethau bysiau yng Nghymru, gyda'r cyllid a ddyrannwyd inni yn wreiddiol ar gyfer gwasanaethau bysiau.
Byddwn, wrth gwrs, yn adolygu'r sefyllfa yn ystod y cyfnod cyllideb nesaf i sicrhau bod y dyraniadau cyllid yn adlewyrchu blaenoriaethau'r llywodraeth hon.
Cyllid gan Lywodraeth y DU
· A allech roi rhagor o wybodaeth am y trafodaethau rydych wedi'u cael am y diffyg cyllid canlyniadol Barnett i Gymru yn dilyn cyhoeddiad buddsoddi Llywodraeth y DU?
· Beth yw camau nesaf Llywodraeth Cymru o ran y mater hwn?
Mae fy swyddogion wedi bod mewn cysylltiad ag Adran Drafnidiaeth y DU, ac rwy'n deall nad yw unrhyw "arian newydd" yn cael ei ddefnyddio gan Lywodraeth y DU i fuddsoddi mewn gwasanaethau bysiau. Felly nid oes unrhyw arian yn ddyladwy i Lywodraeth Cymru o dan Fformiwla Barnett.
Cynigion i fasnachfreinio bysiau
· Yn sgil brys y sefyllfa bresennol, a allwch nodi pryd y bydd Bil y Senedd ar fasnachfreinio bysiau yn cael ei gyflwyno?
Yn ei ddatganiad deddfwriaethol ar 27 Mehefin, cadarnhaodd y Prif Weinidog ein bod yn bwriadu cyflwyno Bil Seneddol ar ddiwygio bysiau yn nhrydedd flwyddyn y Senedd hon.
· Beth yw'r broses arfaethedig ar gyfer trosglwyddo i fodel masnachfreinio bysiau, a sut byddwch yn sicrhau cyn lleied o darfu â phosibl ar wasanaethau yn ystod y cyfnod pontio hwn?
· Beth yw'r amserlen arfaethedig ar gyfer trosglwyddo i fodel masnachfreinio bysiau?
· Pa gamau sy’n cael eu cymryd i baratoi awdurdodau lleol ar gyfer y newid hwn?
Mae Trafnidiaeth Cymru yn gweithio ar gynlluniau pontio i leihau'r tarfu yn ystod y cyfnod trosglwyddo, ac i fynd ati mewn modd mor effeithiol â phosibl i fasnacheiddio gwasanaethau bysiau. Rydym yn bwriadu cyhoeddi rhagor o fanylion am y cynlluniau hyn ochr yn ochr â'r Bil. Ar hyn o bryd rydym yn gweithio gydag awdurdodau lleol i archwilio pa gynnydd y gellir ei wneud tuag at fasnacheiddio yn y cyfamser; er enghraifft, lle mae gwasanaethau'n cael eu contractio gan awdurdodau lleol, bod hyn yn cyd-fynd â gwaith cynllunio rhwydweithiau i leihau maint y newidiadau wrth symud i system fasnachfreinio.
· O ystyried eich bwriad mai Llywodraeth Cymru fydd yr awdurdod masnachfreinio ac yn ysgwyddo’r risg refeniw ar gyfer pob gwasanaeth bysiau o dan drefniadau masnachfraint ledled Cymru, a allwch amlinellu sut y bydd y trefniant arfaethedig yn sicrhau bod y risg hon yn cael ei rheoli ac nad yw'r heriau a'r ansicrwydd ariannol presennol yn cael eu hailadrodd a'u gwaethygu drwy fasnachfreinio?
Rydym wedi gweld yn ystod pandemig COVID a'r tu hwnt mai'r pwrs cyhoeddus, yn y pen draw, sy'n ysgwyddo’r risg refeniw os ydym am i wasanaethau parhau. Mae masnachfreinio'n well yn cydnabod lle mae'r risg hon yn strwythurol, ac yn rhoi rhagor o reolaeth o lawer inni dros sut mae'r arian sydd ar gael gennym i fuddsoddi mewn bysiau'n cael ei wario, fel y gallwn reoli'r risg yn uniongyrchol. Nid yw hyn yn golygu bod pob her o ran cyllido'n cael ei datrys; mae angen o hyd inni ystyried amodau'r farchnad, costau cynyddol, setliadau cyllidebol a'r galw gan deithwyr, er mwyn darparu'r gwasanaethau gorau y gallwn o fewn y cyllid sydd ar gael gennym. Fodd bynnag, mae masnachfreinio'n caniatáu inni wneud hynny er budd y cyhoedd, yn hytrach na gadael yr heriau hynny i'r diwydiant, gan roi gwasanaethau cyhoeddus mewn perygl.
Cyllid rheilffyrdd
· Sut bydd y cynnydd hwn mewn costau yn cael ei ariannu? Ym mhle yng nghyllideb Llywodraeth Cymru y bydd y cyllid i dalu am y diffyg hwn, a beth na fydd yn cael ei gyflawni o ganlyniad i hynny?
Mae talu costau uwch Rhaglen Trawsnewid Llinellau Craidd y Cymoedd yn amlwg yn her i Lywodraeth Cymru, ond mae hon yn rhaglen hanfodol ar gyfer cyflawni llawer o'n huchelgeisiau ehangach ar gyfer datgarboneiddio a gwella cysylltiadau ar gyfer ein cymunedau.
Yn y lle cyntaf byddwn yn ceisio rheoli'r costau uwch drwy ein prosesau rheoli arian arferol.Yn ogystal, mae Trafnidiaeth Cymru wedi llwyddo i sicrhau rhywfaint o gyllid ychwanegol gan yr UE drwy WEFO i helpu i dalu'r costau uwch.
Rydym yn gweithio'n agos gyda Thrafnidiaeth Cymru i reoli a blaenoriaethu ein portffolio o fuddsoddiadau mewn seilwaith rheilffyrdd, gan chwilio am arbedion effeithlonrwydd pan fydd modd ac ystyried amseriad a phroffil y gwariant. Byddwn yn sicrhau ein bod yn deall y gwersi yn dilyn y cynnydd mewn costau a welwyd gan Raglen Trawsnewid Llinellau Craidd y Cymoedd, a bod y rhain yn cael eu cymhwyso i brosiectau seilwaith eraill sy'n cael eu cyflawni ar gyfer Llywodraeth Cymru.
· Byddwch yn ymwybodol o adroddiadau blaenorol fod gennym bryderon parhaus am broses gyllidebu Trafnidiaeth Cymru, yn enwedig ei chymhlethdod a'i diffyg tryloywder. Gyda hyn mewn golwg, pam na chafodd y cynnydd mewn costau cyflawni ei nodi mewn pryd er mwyn cael ei ystyried yn ystod y broses o graffu ar gyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru?
Mae gwaith i ddiwygio cost derfynol ddisgwyliedig Rhaglen Trawsnewid Llinellau Craidd y Cymoedd wedi bod yn mynd rhagddo ers cryn amser. Mae nodi costau uwch o ganlyniad i gyfuniad o Brexit, y pandemig byd-eang a deunyddiau drutach yn golygu bod angen cynnal cryn waith ar yr opsiynau sydd ar gael i Lywodraeth Cymru. Ar y cyd â Thrafnidiaeth Cymru, rydym wedi herio'n gadarn er mwyn lleihau'r cynnydd mewn costau cymaint ag y bo modd, gan gynnwys ystyried opsiynau cyflawni eraill, ailstrwythuro pecynnau contractau a chynnal gwaith ar sail fesul cam. Roedd y broses hon yn mynd rhagddi yn ystod proses y gyllideb ddrafft, felly, er bod costau'r rhaglen gyflawni'n cael eu hadolygu, nid oedd gwerth unrhyw amrywiant wedi cael ei gadarnhau ar yr adeg hwnnw.
Yn fwy cyffredinol, er mwyn sicrhau bod cyllideb Trafnidiaeth Cymru yn dryloyw ac yn adlewyrchu ei holl gyfrifoldebau a swyddogaethau (yn nawr ac yn y dyfodol), byddwn yn cynnal ymarfer cyn cyhoeddi cyllideb ddrafft 24/25 i adolygu strwythur y gweithgareddau trafnidiaeth o fewn Prif Grŵp Gwariant Newid Hinsawdd, i sicrhau eu bod yn cyd-fynd â'n rhaglenni a'n blaenoriaethau.
I sicrhau bod y rhain ar gael i'r cyhoedd a hynny mewn da bryd, rydym yn gwneud gwaith i ddiweddaru Erthyglau Cymdeithasu a Fframwaith Rheoli Trafnidiaeth Cymru. Bydd hyn yn cynnwys cyhoeddi amserlen flynyddol ar gyfer gweithio gyda Thrafnidiaeth Cymru i gynhyrchu a chyhoeddi llythyr cyllid Llywodraeth Cymru a chynllun busnes Trafnidiaeth Cymru; mae hyn yn cyd-fynd yn well â chyhoeddi cyllidebau Llywodraeth Cymru a phroses graffu'r Pwyllgor
· Sut mae'r costau cynyddol ar gyfer moderneiddio Llinellau Craidd y Cymoedd wedi dylanwadu ar ddosbarthu cyllid mewn perthynas â gwasanaethau bysiau?
· Pa fesurau sy'n cael eu cymryd i sicrhau nad yw gwasanaethau bysiau’n dioddef oherwydd y costau cynyddol sy'n codi o brosiectau rheilffyrdd?
Nid yw costau uwch moderneiddio Llinellau Craidd y Cymoedd wedi
dylanwadu ar ddosbarthu cyllid mewn perthynas â gwasanaethau
bysiau. Mae wedi bod yn bleser gennyf allu diogelu'r cyllidebau
sy'n cefnogi ein gwasanaethau bysiau hanfodol. Mae hyn yn golygu
nad ydym wedi defnyddio cyllidebau bysiau i roi cymorthdaliadau i
wasanaethau rheilffordd, a bydd yr arian a ddyrannwyd ar gyfer
cefnogi gwasanaethau bysiau’n cael ei wario ar wneud yn union
hynny.
Terfynau cyflymder 20mya
· Pa waith modelu sydd wedi'i wneud i asesu effaith y polisi terfyn cyflymder 20mya diofyn ar y rhwydwaith bysiau?
Gwnaeth Trafnidiaeth Cymru gontractio City Swift (un o arweinwyr y byd ym maes modelu data ar gyfer bysiau), ar ran Llywodraeth Cymru, i fesur yr effaith ar wasanaethau bysiau pe bai terfynau cyflymder trefol yn cael eu gostwng i 20mya. Canfuwyd bod amseroedd aros diangen ar rai o'r llwybrau fel yr oeddent yn cael eu gweithredu, a phe bai llwybrau'n cael eu hoptimeiddio, byddai angen cerbyd ychwanegol i gadw'r gwasanaeth presennol fel y mae ar ddau o'r llwybrau a gafodd eu dadansoddi, ac ni nodwyd unrhyw newid ar y llall.
· A oes hyblygrwydd gan awdurdodau lleol wrth benderfynu ar eithriadau i'r terfyn 20mya diofyn, i benderfynu y dylai prif lwybr allweddol fod yn eithriad o dan y polisi, os yw'n credu y byddai terfyn cyflymder o 20mya ar y llwybr yn cael effaith andwyol sylweddol ar y rhwydwaith bysiau, yn enwedig ar ei hyfywedd ariannol?
Mae gan awdurdodau priffyrdd yr hyblygrwydd i bennu terfynau cyflymder lleol sy'n addas ar gyfer ffyrdd unigol, gan adlewyrchu angen ac ystyriaethau lleol. Pan fydd eu penderfyniad yn gwyro o'r canllawiau, dylai awdurdodau fod ag achos clir sy’n cynnwys rhesymau da. Nid yw ystyriaethau ariannol yn rhan o'r canllawiau, gan mai prif nod gostwng y terfyn cyflymder cenedlaethol diofyn ar ffyrdd cyfyngedig o 30mya i 20mya yw lleihau nifer a difrifoldeb gwrthdrawiadau, a fydd yn eu tro yn lleihau anafiadau a nifer y bobl sy'n cael eu lladd ar ffyrdd Cymru.
Cludiant Ysgol
· Sut bydd y newidiadau i gyllid gwasanaethau bysiau yn effeithio ar y cyllid ar gyfer darparu cludiant ysgol gan awdurdodau lleol?
Mae Llywodraeth Cymru yn rhoi cyllid i awdurdodau lleol ar gyfer cludiant ysgol yn bennaf drwy'r Setliad Refeniw Llywodraeth Leol, ar ffurf y Grant Cynnal Refeniw. Nid yw'r Grant Cynnal Refeniw yn cael ei glustnodi; mae pob awdurdod yn cael gwario'r cyllid a ddyrannwyd iddynt fel sy'n briodol yn eu barn nhw, ar yr amrediad o wasanaethau y maent yn gyfrifol amdano, gan gynnwys cludiant ysgol. Mae hyn yn unol â pholisi Llywodraeth Cymru mai awdurdodau lleol sy'n gwybod orau am anghenion ac amgylchiadau lleol, ac sydd yn y sefyllfa orau i roi cyllid i ysgolion fel sy'n briodol. Mae awdurdodau lleol yn atebol i'w hetholwyr am y penderfyniadau maent yn eu gwneud.
Mae awdurdodau lleol yn adrodd ar yr elfennau a wariwyd o fewn maes addysg yn eu datganiadau adran 52. Dywedodd awdurdodau lleol eu bod wedi gwario £137 miliwn ar gludiant i'r ysgol yn 2021–22. Bydd cyllid yn parhau i gael ei ddarparu drwy’r Grant Cynnal Refeniw.
Mae awdurdodau lleol wedi bod yn allweddol i'r gwaith partneriaeth wrth gytuno ar delerau'r Gronfa Bontio ar gyfer Bysiau, ac mae sicrhau bod gan ddysgwyr fynediad at addysg wedi parhau i fod yn flaenoriaeth yn ystod yr holl drafodaethau wrth sefydlu rhwydweithiau bysiau rhanbarthol.
· Pa opsiynau sy'n cael eu hystyried i integreiddio cludiant ysgol â chymorth bysiau ehangach i wella cynaliadwyedd ac effeithiolrwydd y ddau?
Ni fydd y ddeddfwriaeth arfaethedig ar reoleiddio'r diwydiant bysiau'n effeithio ar y dyletswyddau a roddir ar awdurdodau lleol gan y Mesur Teithio gan Ddysgwyr, ond mae'r Bil Bysiau yn rhoi cyfle inni harneisio manteision model gweithredu newydd lle bydd awdurdodau lleol yn gallu chwarae rôl wrth lywio a dylanwadu ar rwydweithiau bysiau yn y dyfodol, yn seiliedig ar anghenion teithio eu dysgwyr.
· Pa fesurau sydd ar waith i sicrhau bod gwasanaethau cludiant ysgol yn parhau i gael eu hariannu'n ddigonol?
Fel yr amlinellwyd uchod mae Llywodraeth Cymru yn rhoi cyllid i awdurdodau lleol ar gyfer cludiant ysgol drwy'r Grant Cynnal Refeniw. Mae cyllid yn cael ei ddyrannu yn dilyn ymgynghori a gwaith partneriaeth helaeth gyda'r awdurdodau lleol. Yn 2023–24 pennwyd ffigur o £5.5 miliwn ar gyfer cyllid refeniw craidd awdurdodau lleol; cynnydd o 7.9% o'i gymharu â'r flwyddyn flaenorol ar draws pob agwedd. Ni dderbyniodd unrhyw awdurdod gynnydd o lai na 6.5%.
Hyrwyddo defnyddio bysiau
· Pa strategaethau y mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu eu rhoi ar waith i annog rhagor o bobl i ddefnyddio gwasanaethau bysiau, yn enwedig yng nghyd-destun datblygiadau tai newydd?
Drwy ganllawiau cynllunio, rydym yn mynd ati’n weithredol i annog awdurdodau lleol i sicrhau bod datblygiadau newydd yn cyd-fynd ac yn cael eu hintegreiddio â darpariaethau trafnidiaeth strategol, a bod datblygiadau tai newydd yn gallu cael eu gwasanaethu gan lwybrau trafnidiaeth gyhoeddus a llwybrau teithiol llesol.
·
A
ydych wedi ystyried effaith y gostyngiad mewn gwasanaethau bysiau
ar eich gallu i gyrraedd targedau Llywodraeth Cymru ar gyfer newid
dulliau teithiau?
Rwy'n falch ein bod wedi llwyddo i ddiogelu gwasanaethau bysiau yn ystod pandemig COVID ac wedyn. Mae'n debyg y byddwn yn gallu gwneud yr un peth ar gyfer y rhan fwyaf o wasanaetha’r flwyddyn ariannol hon. Rydym eisoes yn gweithio ar y cynllun ariannu ar gyfer y flwyddyn nesaf i'n galluogi i barhau i wneud hyn.
Fodd bynnag, mae'n rhaid inni wynebu'r ffaith bod y system fysiau sydd gennym ar hyn o bryd wedi torri, a heb ymyrraeth gan y llywodraeth byddai gostyngiad enfawr mewn gwasanaethau bysiau. Dyna'r rheswm rydym yn cyflwyno deddfwriaeth i ddiwygio'r system fysiau yn nhymor nesaf y Senedd hon.
Yn olaf, diolch am hysbysu am yr ymchwil a gynhaliwyd gan yr Athro Mitchel Langfor a'r Athro Gary Higgs ym Mhrifysgol De Cymru ar ddatblygu Dangosydd Mynediad at Fysiau yng Nghymru.
Yn gywir

Lee Waters AS/MS
Y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd
Deputy Minister for Climate Change